Tsieineaidd
Cymysgwch y cyw â 2 lwy de o'r saws soi, y blawd corn a'r gwin Shaoxing.
Coginiwch y nwdls mewn dŵr berwedig am 3-4 munud, nes eu bod newydd feddalu, yna draeniwch, rinsiwch â dŵr oer a chymysgwch ag 1 llwy de o'r olew.
Cymysgwch y saws soi sy'n weddill gyda'r saws wystrys a'r siwgr.
Twymwch 1 llwy fwrdd o'r olew mewn wok dros wres uchel a throfriwch y cyw am 4 munud, nes ei fod wedi coginio drwyddo, yna rhowch o'r neilltu.
Twymwch yr olew sy'n weddill a throfriwch y winwnsyn, y garlleg a'r foronen am 2 funud, yna ychwanegwch y fresychen a throfriwch am 2 funud.
Ychwanegwch y nwdls a'r saws a chymysgwch am 2 funud, nes bod y nwdls wedi'u gorchuddio ac ychydig yn grimp o gwmpas yr ymylon.
Rhowch y cyw yn ôl, ychwanegwch yr ysgewyll ffa a'r winwns gwyrdd, cymysgwch am 1 munud a gweinwch.